MENU

Temtasiwn blasus wrth i ŵyl fwyd gyfeillgar i deuluoedd ddychwelyd ar gyfer mis Medi 2023

Mae CYNLLUNIO ar y gweill ar gyfer dychwelyd un o wyliau bwyd mwyaf hirsefydlog a chyfeillgar Cymru.

Bydd Gŵyl Fwyd Arberth yn ôl ym mis Medi gyda dau ddiwrnod o adloniant ar thema bwyd i’r teulu cyfan.

Mae’r digwyddiad blynyddol, a gynhaliwyd gyntaf yn 1999, yn cael ei gynnal ar benwythnos olaf mis Medi.

Bydd yr ŵyl annibynnol, sy’n cael ei rhedeg gan bobl leol, nawr yn cynnwys danteithion blasus i rai o bob oed sy’n caru bwyd ar 23 a 24 Medi, 2023.

Wedi’i leoli ochr yn ochr â’r Town Moor yn Arberth, Sir Benfro, bydd digonedd i demtio’r blasbwyntiau gyda dewis blasus o stondinau bwyd, cogyddion gwadd angerddol, cerddoriaeth fyw ac adloniant a fydd yn gwneud i chi ddawnsio, bar a mwy.

Mae gan yr ŵyl enw da am ddathlu goreuon Sir Benfro a Chymru tra’n annog talent newydd ac ifanc ar hyd y ffordd. Dywedodd cadeirydd pwyllgor Gŵyl Fwyd Arberth, Colin Russell: “Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb sy’n dod i gefnogi’r ŵyl flwyddyn ar ôl blwyddyn ac edrychwn ymlaen at groesawu pawb eto i ddathlu a rhannu awch am fwyd ac adloniant o’r radd flaenaf.”

Mae Gŵyl Fwyd Arberth yn ddigwyddiad dielw sy’n cael ei redeg yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr gyda chefnogaeth busnesau a sefydliadau lleol.

Mae safle’r ŵyl ar ben y stryd fawr hefyd yn cynnig y cyfle i grwydro canol y dref brysur gyda’i amrywiaeth o siopau annibynnol, caffis a bwytai arobryn.

Mae dau safle parcio a theithio yn sicrhau mynediad hawdd ar y diwrnod.